Y Cwrs Gorau i Helpu Eich Plentyn i Ddysgu

Cwrs cynhwysfawr i rieni plant 5-12 oed yw Helpu Eich Plentyn i Ddysgu gyda Mike Gershon, ac mae'n rhoi popeth sydd ei angen arnoch i gefnogi eich plentyn i ddysgu a'i helpu i dyfu a datblygu.

Mae'r cwrs ar gael yn RHAD AC AM DDIM i rieni plant 5-12 oed ar draws Gogledd Cymru. Cofiwch, bydd angen i chi nodi eich cod cwpon wrth dalu i gael y cwrs am ddim.

Sut i fynd at y cwrs Course Login

Sut i fynd at y Cwrs

Mae’r cwrs ar gael yn RHAD AC AM DDIM i rieni plant 5-12 oed ar draws Gogledd Cymru.

Ariannwyd gan GwE, y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Gogledd Cymru cwbl ddwyieithog. Mae’n rhoi mynediad i rieni plant sydd mewn ysgolion yn awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam.

Fel rhiant, gallwch fynd at y cwrs gan ddilyn y camau syml hyn:


Cam 1: Cael cod cwpon

Cam 1: Cael cod cwpon

Bydd ysgol eich plentyn yn rhoi cod cwpon i chi. Os nad ydych wedi'i dderbyn, cysylltwch â'r ysgol.

Cam 2: Dewis eich fersiwn

Cam 2: Dewis eich fersiwn

Cliciwch ar y ddolen am fersiwn Gymraeg neu Saesneg y cwrs.

Cam 3: Nodi cod cwpon

Cam 3: Nodi cod cwpon

Nodwch y cod wrth dalu. Fel hyn, cewch ddefnyddio’r cwrs yn rhad ac am ddim. Cofrestrwch gyda'ch cyfeiriad e-bost ac rydych yn barod i fynd.

36 Fideo HD Llawn wedi'u Cynhyrchu i Safonau Teledu
36 Fideo HD Llawn wedi'u Cynhyrchu i Safonau Teledu
Canllawiau gwych yn cynnig Strategaethau Ymarferol
Canllawiau gwych yn cynnig Strategaethau Ymarferol
Cynnwys Ychwanegol: Llawlyfr Cwrs a Thaflenni Twyllo
Cynnwys Ychwanegol: Llawlyfr Cwrs a Thaflenni Twyllo
Mynediad i rieni yng Ngogledd Cymru gan GwE - defnyddiwch y cod cwpon i gofrestru am ddim
Mynediad i rieni yng Ngogledd Cymru gan GwE - defnyddiwch y cod cwpon i gofrestru am ddim
Dim terfynau amser - mae'n gwrs ar-lein y gallwch ei wneud wrth eich pwysau
Dim terfynau amser - mae'n gwrs ar-lein y gallwch ei wneud wrth eich pwysau
Gallwch wylio ar unrhyw ddyfais - mae pob fideo ar gael ar ôl i chi gofrestru
Gallwch wylio ar unrhyw ddyfais - mae pob fideo ar gael ar ôl i chi gofrestru

Cefndir Mike Gershon

Mae Mike yn awdur mwy na 40 o lyfrau yn ymwneud â dysgu ac addysgu,  gan gynnwys sawl gwerthwr gorau. Mae ei waith wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg, Iseldireg, Hebraeg, Arabeg a Tsieinëeg.

Mae adnoddau addysgu ar-lein Mike yn rhai o’r adnoddau mwyaf poblogaidd erioed, ac wedi’u gweld a’u lawrlwytho mwy na 4 miliwn o weithiau gan athrawon mewn dros 180 gwlad a thiriogaeth.

Ac yntau wedi bod yn cefnogi athrawon, dysgwyr ac ysgolion ers llawer o flynyddoedd, mae Mike bellach wedi creu cwrs unigryw, heb ei debyg ar gyfer y bobl bwysicaf ym mywyd pob plentyn: ei rieni. Mae Helpu Eich Plentyn i Ddysgu gyda Mike Gershon yn datgloi cyfrinachau tu cefn i ddysgu, ac yn rhoi adnoddau, dealltwriaeth a strategaethau i rieni er mwyn iddynt helpu eu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu, waeth beth.

Rhagor o wybodaeth
GwE -  fully bilingual School Effectiveness and Improvement Service for North Wales

Cefndir GwE

GwE yw gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol gogledd Cymru sydd yn gweithio ochr yn ochr â ac ar ran awdurdodau lleol gogledd Cymru.

Craidd ein gwaith yw uchelgais gwirioneddol i weld yr ysgolion a’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn cyflawni eu dyheadau a gweld pob dysgwr yn llwyddo.

Yn Gymry balch ac â gwybodaeth ryngwladol, byddwn yn cefnogi ein ysgolion i ddod yn sefydliadau dysgu llwyddiannus a hyderus. Cydweithiwn i sicrhau’r hinsawdd a’r addysg y mae pob dysgwr yn ei haeddu er mwyn bod yn unigolion galluog a gwydn sy’n gwireddu eu llawn botensial.

Ewch i wefan GwE